Biosecurity Action Plans – CY

Language: English | Cymraeg

Cynlluniau gweithredu bioddiogelwch – beth yw’r llwybrau yn aber afon Hafren?

Gall rhywogaethau estron goresgynnol morol gyrraedd a lledaenu drwy ffyrdd amrywiol, a gelwir y rhain yn ‘llwybrau’. Yn ystod gweithdai rhanddeiliaid a gynhaliwyd yn ardal aber afon Hafren yn 2023 a 2024, nodwyd llwybrau hollbwysig sy’n berthnasol i aber afon Hafren, a lluniwyd cynlluniau gweithredu ar gyfer pob un ohonynt. Ar gyfer rhai o’r llwybrau hyn, mae toreth o wybodaeth ar gael yn barod am gamau gweithredu perthnasol, a sut i liniaru lledaeniad, yr ydym wedi rhoi dolennau iddynt ar gyfer defnyddwyr, lle bo’n briodol. Fodd bynnag, ar gyfer llwybrau eraill, nid oes llawer o ganllawiau ar gael ar hyn o bryd sy’n amlinellu’r arferion gorau ar gyfer lliniaru. Mae ein cynlluniau gweithredu bioddiogelwch yn amlinellu’r camau gweithredu y gellir eu cymryd yn aber afon Hafren i fynd i’r afael â’r risgiau a berir gan rywogaethau estron goresgynnol morol sy’n gysylltiedig â’r llwybrau hyn.

Cynlluniau gweithredu aber afon Hafren:

Mae’r cynllun wedi’i rannu’n saith cynllun gweithredu gwahanol i’w gwneud yn haws i grwpiau buddiant unigol nodi a gweithredu camau gweithredu sy’n berthnasol iddynt. Mae’r cynlluniau gweithredu fel a ganlyn: 

Hamdden

Dysgwch fwy am y Cynllun Gweithredu Hamdden

Genweirio

Dysgwch fwy am y Cynllun Gweithredu Genweirio

Gweithrediadau masnachol

Dysgwch fwy am Gynllun Gweithredu Gweithrediadau Masnachol Cynllun gweithredu

Marinâu

Dysgwch fwy am y Cynllun Gweithredu Marinâu

Adfer cynefinoedd a rhywogaethau

Dysgwch fwy am y Cynllun Gweithredu Adfer Cynefinoedd a Rhywogaethau

Monitro ac ymchwil

Dysgwch fwy am y Cynllun Gweithredu Monitro ac Ymchwil

Digwyddiadau

Dysgwch fwy am y Cynllun Gweithredu Digwyddiadau

Wild about social media

Join our community online and tag your posts #DiscoverTheSevern