Angling – CY

Language: English | Cymraeg

Cynllun Gweithredu Llwybr Genweirio Aber Afon Hafren

Er bod genweirio yn weithgaredd hamdden, rydym wedi creu cynllun gweithredu llwybr unigryw ar ei gyfer. Anelir y cynllun hwn at enweirio yn amgylcheddau morol, neu amgylcheddau dŵr lled hallt, aber afon Hafren. Nid yw’n cynnwys genweirio dŵr croyw na dyframaethu.

Mae genweirio yn cael ei gydnabod fel llwybr posibl ar gyfer cyflwyno ac ymledu rhywogaethau estron goresgynnol. Mae hyn yn cael ei briodoli i anifeiliaid (fel wyau, ac yn eu cyfnodau bywyd cynrhonaidd, ifanc ac oedolaidd) a gwymon (ar ffurf darnau neu sborau) yn cael eu dal mewn offer, neu ynghlwm wrth offer, neu’n cael eu trosglwyddo trwy gasglu abwydau. Yn yr un modd, gellir trosglwyddo rhywogaethau estron goresgynnol rhwng lleoliadau, yn enwedig pan ymwelir â nifer o diroedd pysgota yn ystod ychydig o ddyddiau neu wythnosau.

Gall offer pysgota fel gwiail, leiniau, rhwydi a rhacanau, yn ogystal â dillad fel esgidiau pysgota a bŵts, gael eu gorchuddio gan rywogaethau estron goresgynnol pan gânt eu trochi mewn dŵr, a gall rhai ohonynt fod yn ficrosgopig. Mae deunyddiau amsugnol fel rhwydi, dillad ac offer amddiffynnol personol yn arbennig o debygol o drosglwyddo rhywogaethau estron goresgynnol (e.e. larfâu bach, wyau a sborau) oherwydd maent yn gallu cymryd oriau neu ddyddiau i sychu.

Gall defnyddio rywogaethau estron goresgynnol byw (neu rywogaethau estron goresgynnol byw/marw sy’n cario wyau) fel abwyd beri risg bosibl o gyflwyno organebau hyfyw i ardaloedd newydd. Os defnyddir rhywogaethau estron goresgynnol byw, fel yr ewin mochyn (Crepidula fornicata), fel abwyd pysgota, mae perygl y byddant yn dianc. Neu, os mai dim ond yn ddiweddar y lladdwyd yr abwyd, gallai unrhyw wyau neu sberm y gallai fod yn eu cario gael eu rhyddhau, gan hwyluso eu hymlediad. Gwyddys y gallai rhai rhywogaethau estron goresgynnol, yn enwedig gwymonau, gael eu defnyddio i storio abwydau eraill wrth eu cludo. Pan ddefnyddir rhywogaethau estron goresgynnol yn y modd hwn, mae’n cynyddu’r risg o ymledu. Gall rhywogaethau estron goresgynnol hefyd gael eu gwasgaru yn, neu ar, y deunyddiau pecynnu a gludir gyda’r abwyd. Er enghraifft, gall rhywogaethau estron goresgynnol lynu wrth wymon neu fod mewn mwd (neu gall y deunydd pecynnu ei hun fod yn rhywogaeth estron oresgynnol).

Er mwyn lleihau’r risgiau hyn, dylai unrhyw un sy’n pysgota ar yr aber, neu o’i gwmpas, ddilyn y camau bioddiogelwch yn y cynllun hwn. Mae’r rhain yn cynnwys Edrych, Golchi, Sychu eu holl gìt a’u hoffer yn drylwyr, a rhoi protocolau bioddiogelwch ar waith ar gyfer eu clybiau neu grŵp.

Y rhanddeiliaid perthnasol ar gyfer y cynllun gweithredu hwn yw clybiau genweirio a genweirwyr.

Edrych, Golchi, Sychu

Mynnwch eich copi eich hun o’r poster Edrych, Golchi, Sychu isod:

Pysgota ar lan afon Hafren
(Cydnabyddiaeth am y ffotograff: Jane Nesbitt)
Pysgotwyr rhwyd gafl
(Cydnabyddiaeth am y ffotograff: Jane Nesbitt)

Cynllun Gweithredu Llwybr Genweirio Aber Afon Hafren

Rhif y cam gweithreduCam gweithreduDolenni
2.1Cefnogi’r cynllun hwn, a hyrwyddo’r defnydd o’r camau gweithredu sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun hwn, ar draws eich sector.
2.2Bod yn rhan o’r ymgyrch Edrych, Golchi, Sychu, a defnyddio ei hadnoddau ar gyfer arferion gorau.Check, Clean, Dry for Anglers (NNSS)
2.3Os ydych chi’n adnabod rhywogaeth estron oresgynnol, rhowch wybod amdani ar iRecord. Os nad ydych chi’n adnabod y rhywogaeth, cysylltwch â’ch canolfan gofnodion leol.IRecord

Local Records Centres (ALERC)
2.4Ymgysylltu â siopau genweirio a siopau abwyd i godi ymwybyddiaeth o’r risg o rywogaethau estron goresgynnol morol.
2.5Clybiau genweirio i ychwanegu cymal bioddiogelwch y cytunwyd arno’n genedlaethol at eu cyfansoddiadau.Nationally Agreed Biosecurity Clause (NNSS)
2.6Archwilio cyfleoedd i ymgysylltu â llongau siarter i godi ymwybyddiaeth o rywogaethau estron goresgynnol, ac awgrymu/cefnogi perchnogion cychod i roi mesurau bioddiogelwch ar waith.
2.7Archwilio cyfleoedd i godi rhagor o arwyddion mewn safleoedd hollbwysig.Check, Clean, Dry Signage Materials for Anglers (NNSS)
2.8Cynnwys gwybodaeth am rywogaethau estron goresgynnol, arferion gorau o ran bioddiogelwch, archwiliadau ac adroddiadau mewn hyfforddiant ar gyfer pob aelod o staff / pob aelod newydd.Training (NNSS)
2.9Rhannu negeseuon ynghylch yr ymgyrch Edrych, Golchi, Sychu fel rhan o’r broses ymgeisio am drwydded gwialen bysgota, lle bo’n briodol. Nid oes angen trwydded ar gyfer genweirio môr.
2.10Ychwanegu cymal bioddiogelwch mewn unrhyw wybodaeth a rennir mewn digwyddiadau pysgota môr i sicrhau bod cystadleuwyr nad ydynt yn mynd i ardal afon Hafren fel arfer yn ymwybodol o’r ymgyrch Edrych, Golchi, Sychu a’r angen i atal rhywogaethau estron goresgynnol morol rhag ymledu.Check out Events


Wild about social media

Join our community online and tag your posts #DiscoverTheSevern