Language: English | Cymraeg
Cynllun Gweithredu Llwybr Digwyddiadau Aber Afon Hafren
Gall digwyddiadau cyhoeddus, neu ddigwyddiadau fasnachol, mawr ar, neu gerllaw, aber afon Hafren, megis regatas, gwyliau cychod, cystadlaethau pysgota, a digwyddiadau chwaraeon dŵr, gynyddu’r risg o ymledu rhywogaethau estron goresgynnol. Oherwydd bod niferoedd uwch o longau, offer a chyfranogwyr yn symud i mewn ac allan o’r aber, mae’r siawns o gyflwyno neu drosglwyddo rhywogaethau estron goresgynnol yn sylweddol uwch. Gall unigolion sy’n symud rhwng gwahanol leoliadau gario rhywogaethau estron goresgynnol yn ddiarwybod ar eu hoffer, neu wrth wneud eu gweithgareddau. Gall offer a chyfarpar gario organebau microsgopig, anifeiliaid (ar ffurf wyau ac yn eu cyfnodau cynrhonaidd, ifanc ac oedolaidd) a gwymon (ar ffurf darnau neu sborau) nad ydynt bob amser yn weladwy i’r llygad.
Er mwyn lleihau’r risg hon, dylai trefnwyr y digwyddiadau roi mesurau bioddiogelwch ar waith, megis sefydlu gorsafoedd glanhau ar gyfer cychod, padlau, offer pysgota, ac offer eraill. Yn ogystal â hyn, dylai trefnwyr annog cyfranogwyr i ddilyn yr arferion gorau, megis glanhau a sychu eu hoffer yn drylwyr cyn y digwyddiad, ac ar ei ôl, er mwyn helpu i atal ymlediad rhywogaethau estron goresgynnol.
Y rhanddeiliaid perthnasol ar gyfer y cynllun gweithredu hwn yw trefnwyr digwyddiadau.


Cynllun Gweithredu Llwybr Digwyddiadau Aber Afon Hafren
Rhif y cam gweithredu | Cam gweithredu | Dolenni |
---|---|---|
7.1 | Cefnogi’r cynllun hwn, a hyrwyddo’r defnydd o’r camau gweithredu sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun hwn, ar draws eich sector. | |
7.2 | Ystyried achrediad AQUA neu ddefnyddio’r templedi a ddarperir i ddrafftio cynllun bioddiogelwch ar gyfer eich sefydliad gan ddefnyddio’r adnoddau ar y wefan hon. | AQUA Marine Biosecurity for Construction and Events (NNSS) |
7.3 | Enwebu arweinydd bioddiogelwch yn eich sefydliad/grŵp. Annog yr unigolyn hwn i addysgu staff a chwsmeriaid am rywogaethau estron goresgynnol morol gan ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael ar y tudalennau bioddiogelwch hyn. | |
7.4 | Gofyn i’r arweinydd bioddiogelwch adrodd am rywogaethau ar iRecord. Os nad ydych chi’n adnabod rhywogaeth, anfon ffotograff i’ch canolfan gofnodion leol. | IRecord Local Records Centres (ALERC) |
7.5 | Addysgu staff, cwsmeriaid a chontractwyr trwy gynnwys gwybodaeth am rywogaethau estron goresgynnol morol a bioddiogelwch yn eich cyfryngau print a chyfryngau ar-lein presennol. | |
7.6 | Cynnwys gwybodaeth am rywogaethau estron goresgynnol, arferion gorau o ran bioddiogelwch, archwiliadau ac adroddiadau mewn hyfforddiant sefydlu gorfodol i staff. | Training (NNSS) |
7.7 | Cwblhau asesiad risg bioddiogelwch ar gyfer gweithgareddau sy’n digwydd ar yr arfordir, a sicrhau bod unrhyw risgiau’n cael eu lliniaru’n briodol. | Marine Biosecurity (NNSS) |
7.8 | Mewnosod cymal bioddiogelwch mewn unrhyw wybodaeth a rennir mewn digwyddiadau cychod a chwaraeon dŵr i sicrhau bod cystadleuwyr nad ydynt yn mynd i ardal afon Hafren fel arfer yn cyrraedd gydag offer a chychod glân, ac yn ymwybodol o’r ymgyrch Edrych, Golchi, Sychu, a’r angen i atal rhywogaethau estron goresgynnol morol rhag ymledu. | |
7.9 | Os yw’n briodol, gwahodd mudiad bywyd gwyllt lleol i gael stondin yn y digwyddiad, a gofyn iddo dynnu sylw’r ymwelwyr at rywogaethau estron goresgynnol, a pha mor bwysig yw bioddiogelwch. Gofyn am becyn Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch rhywogaethau estron goresgynnol morol ar gyfer y digwyddiad. | For more information about the Marine INNS Kit (Museum.Wales) |
Dolennau ac adnoddau:
