Events – CY

Language: English | Cymraeg

Cynllun Gweithredu Llwybr Digwyddiadau Aber Afon Hafren

Gall digwyddiadau cyhoeddus, neu ddigwyddiadau fasnachol, mawr ar, neu gerllaw, aber afon Hafren, megis regatas, gwyliau cychod, cystadlaethau pysgota, a digwyddiadau chwaraeon dŵr, gynyddu’r risg o ymledu rhywogaethau estron goresgynnol. Oherwydd bod niferoedd uwch o longau, offer a chyfranogwyr yn symud i mewn ac allan o’r aber, mae’r siawns o gyflwyno neu drosglwyddo rhywogaethau estron goresgynnol yn sylweddol uwch. Gall unigolion sy’n symud rhwng gwahanol leoliadau gario rhywogaethau estron goresgynnol yn ddiarwybod ar eu hoffer, neu wrth wneud eu gweithgareddau. Gall offer a chyfarpar gario organebau microsgopig, anifeiliaid (ar ffurf wyau ac yn eu cyfnodau cynrhonaidd, ifanc ac oedolaidd) a gwymon (ar ffurf darnau neu sborau) nad ydynt bob amser yn weladwy i’r llygad.

Er mwyn lleihau’r risg hon, dylai trefnwyr y digwyddiadau roi mesurau bioddiogelwch ar waith, megis sefydlu gorsafoedd glanhau ar gyfer cychod, padlau, offer pysgota, ac offer eraill. Yn ogystal â hyn, dylai trefnwyr annog cyfranogwyr i ddilyn yr arferion gorau, megis glanhau a sychu eu hoffer yn drylwyr cyn y digwyddiad, ac ar ei ôl, er mwyn helpu i atal ymlediad rhywogaethau estron goresgynnol.

Y rhanddeiliaid perthnasol ar gyfer y cynllun gweithredu hwn yw trefnwyr digwyddiadau.

Cardiff Harbour Authority
(Cydnabyddiaeth am y ffotograff: Awdurdod Harbwr Caerdydd)
Cardiff Harbour Authority
(Cydnabyddiaeth am y ffotograff: Awdurdod Harbwr Caerdydd)

Cynllun Gweithredu Llwybr Digwyddiadau Aber Afon Hafren

Rhif y cam gweithreduCam gweithreduDolenni
7.1Cefnogi’r cynllun hwn, a hyrwyddo’r defnydd o’r camau gweithredu sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun hwn, ar draws eich sector.
7.2Ystyried achrediad AQUA neu ddefnyddio’r templedi a ddarperir i ddrafftio cynllun bioddiogelwch ar gyfer eich sefydliad gan ddefnyddio’r adnoddau ar y wefan hon.AQUA

Marine Biosecurity for Construction and Events (NNSS)
7.3Enwebu arweinydd bioddiogelwch yn eich sefydliad/grŵp. Annog yr unigolyn hwn i addysgu staff a chwsmeriaid am rywogaethau estron goresgynnol morol gan ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael ar y tudalennau bioddiogelwch hyn.
7.4Gofyn i’r arweinydd bioddiogelwch adrodd am rywogaethau ar iRecord. Os nad ydych chi’n adnabod rhywogaeth, anfon ffotograff i’ch canolfan gofnodion leol.IRecord

Local Records Centres (ALERC)
7.5Addysgu staff, cwsmeriaid a chontractwyr trwy gynnwys gwybodaeth am rywogaethau estron goresgynnol morol a bioddiogelwch yn eich cyfryngau print a chyfryngau ar-lein presennol.
7.6Cynnwys gwybodaeth am rywogaethau estron goresgynnol, arferion gorau o ran bioddiogelwch, archwiliadau ac adroddiadau mewn hyfforddiant sefydlu gorfodol i staff.Training (NNSS)
7.7Cwblhau asesiad risg bioddiogelwch ar gyfer gweithgareddau sy’n digwydd ar yr arfordir, a sicrhau bod unrhyw risgiau’n cael eu lliniaru’n briodol.Marine Biosecurity (NNSS)
7.8Mewnosod cymal bioddiogelwch mewn unrhyw wybodaeth a rennir mewn digwyddiadau cychod a chwaraeon dŵr i sicrhau bod cystadleuwyr nad ydynt yn mynd i ardal afon Hafren fel arfer yn cyrraedd gydag offer a chychod glân, ac yn ymwybodol o’r ymgyrch Edrych, Golchi, Sychu, a’r angen i atal rhywogaethau estron goresgynnol morol rhag ymledu.
7.9Os yw’n briodol, gwahodd mudiad bywyd gwyllt lleol i gael stondin yn y digwyddiad, a gofyn iddo dynnu sylw’r ymwelwyr at rywogaethau estron goresgynnol, a pha mor bwysig yw bioddiogelwch. Gofyn am becyn Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch rhywogaethau estron goresgynnol morol ar gyfer y digwyddiad.For more information about the Marine INNS Kit (Museum.Wales)

Wild about social media

Join our community online and tag your posts #DiscoverTheSevern