Language: English | Cymraeg
Cynllun Gweithredu Llwybr Ymchwil a Monitro yn y Maes Aber Afon Hafren
Mae ymchwil a monitro yn y maes yn aber afon Hafren yn hanfodol ar gyfer deall ei fioamrywiaeth a’i newidiadau amgylcheddol. Fodd bynnag, gall y gweithgareddau hyn ymledu rhywogaethau estron goresgynnol yn anfwriadol os na ddilynir protocolau bioddiogelwch priodol. Gall timau ymchwil sy’n symud rhwng gwahanol leoliadau gario rhywogaethau estron goresgynnol yn ddiarwybod ar eu hoffer ac wrth wneud eu gweithgareddau. Gall offer a chyfarpar gario organebau microsgopig, anifeiliaid (ar ffurf wyau ac yn eu cyfnodau cynrhonaidd, ifanc ac oedolaidd) a gwymon (ar ffurf darnau neu sborau) nad ydynt bob amser yn weladwy i’r llygad.
Mae fectorau hollbwysig yn cynnwys y canlynol:
- Trosglwyddo offer: Gall offer samplu, megis rhwydi, trapiau, a chreiddiau gwaddod, gario rhywogaethau estron goresgynnol os nad ydynt yn cael eu glanhau a’u sychu’n drylwyr rhwng safleoedd. Mae offer llaith neu fudr yn amgylchedd delfrydol i rywogaethau estron goresgynnol oroesi ac ymledu.
- Defnyddio cychod: Gall cychod ymchwil gludo rhywogaethau estron goresgynnol ar eu cregyn, mewn dŵr balast, neu fewn adrannau. Gall organebau sy’n halogi sydd ynghlwm wrth gychod ymledu i ardaloedd newydd pan fydd cychod yn symud rhwng safleoedd.
- Personél a dillad: Gall siwtiau gwlyb, esgidiau a thaclau eraill gadw dŵr neu ddeunydd biolegol, a all fod yn gynefin i rywogaethau estron goresgynnol. Heb olchi priodol, gall yr eitemau hyn gyflwyno rhywogaethau estron goresgynnol i ardaloedd newydd.
- Samplau gwaddod a dŵr: Gall trin samplau mewn ffordd amhriodol ryddhau rhywogaethau estron goresgynnol yn ôl i’r amgylchedd, neu leoliadau labordy, ar ddamwain. Dylid cau samplau’n briodol a chael gwared arnynt mewn ffordd ddiogel.
Er mwyn lleihau’r risgiau hyn, dylai timau ymchwil ddilyn protocolau bioddiogelwch llym, gan gynnwys glanhau a sychu offer yn drylwyr, cynnal a chadw cychod yn gywir, a thrin samplau yn ofalus.
Ymhlith y rhanddeiliaid perthnasol ar gyfer y cynllun gweithredu hwn yw cyrff cadwraeth natur, sefydliadau academaidd ac ymchwil, cyrff cadwraeth a chyrff anllywodraethol amgylcheddol, a mentrau gwyddoniaeth dinasyddion.

(Cydnabyddiaeth am y ffotograff: Cardiff University)

(Cydnabyddiaeth am y ffotograff: Cardiff University)
Cynllun Gweithredu Llwybr Ymchwil a Monitro yn y Maes Aber Afon Hafren
Rhif y cam gweithredu | Cam gweithredu | Dolenni |
---|---|---|
6.1 | Cefnogi’r cynllun hwn, a hyrwyddo’r defnydd o’r camau gweithredu sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun hwn, ar draws eich sector. | |
6.2 | Enwebu arweinydd bioddiogelwch yn eich sefydliad/grŵp. Annog yr unigolyn hwn i addysgu staff a chwsmeriaid am rywogaethau estron goresgynnol morol gan ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael ar y tudalennau bioddiogelwch hyn. | |
6.3 | Gofyn i’r arweinydd bioddiogelwch adrodd am rywogaethau ar iRecord. Os nad ydych chi’n adnabod y rhywogaeth, anfon ffotograff i’ch canolfan gofnodion leol. | IRecord Local Records Centres (ALERC) |
6.4 | Addysgu staff, cwsmeriaid a chontractwyr trwy gynnwys gwybodaeth am rywogaethau estron goresgynnol morol, a bioddiogelwch, yn eich cyfryngau print a chyfryngau ar-lein presennol, megis canllawiau a gwefannau. | |
6.5 | Cwblhau asesiad risg bioddiogelwch ar gyfer gweithgareddau sy’n digwydd ar yr arfordir, a sicrhau bod unrhyw risgiau’n cael eu lliniaru’n briodol. | |
6.6 | Gellir gofyn am gynllun bioddiogelwch fel rhan o gais am drwydded forol. Defnyddio’r adran adnoddau i gyrchu canllawiau. | |
6.7 | Sicrhau eich bod yn Edrych, Golchi a Sychu’r holl gìt ac offer, gan ddilyn arferion gorau, bob tro ar ôl eu defnyddio. | Check, Clean, Dry for Field Workers (NNSS) |
6.8 | Sicrhau bod unrhyw gyfleusterau ymchwil yn fioddiogel cyn gwneud unrhyw waith. |