Monitoring and Recording – CY

Language: English | Cymraeg

Monitro a chofnodi

Offer ac adroddiadau ar gyfer olrhain cynnydd mesurau bioddiogelwch, arolygon, a gwaith dadansoddi.

Cofnodi

Er nad yw’n fath o fioddiogelwch, mae cofnodi rhywogaethau estron a welwyd yn ddefnyddiol i ddeall presenoldeb ac ymlediad rhywogaethau yn aber afon Hafren. Mae iRecord yn ffordd hawdd o gofnodi’r hyn a welwyd, ond, os nad ydych chi’n hyderus yn adnabod y rhywogaeth, gallwch chi anfon eich cofnod i’ch canolfan cofnodion amgylcheddol leol. Dewch o hyd i’ch canolfan cofnodion amgylcheddol leol yma.

Ble i anfon eich cofnodion

Gallwch gofnodi unrhyw rywogaethau estron ar-lein trwy iRecord. Cofiwch gynnwys ffotograff o’r holl rywogaethau yr ydych wedi’u gweld os ydych chi wedi cymryd rhai, er mwyn helpu i’w hadnabod. Mae hefyd cynlluniau cofnodi i annog adrodd am rywogaethau penodol. Gweler y rhestr o apiau ar gyfer ffonau clyfar a gwefannau isod.


Os na allwch wneud cofnod o’r rhywogaeth yr ydych wedi’i gweld trwy ap neu ar-lein, mae Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr yn argymell eich bod yn anfon unrhyw gofnodion drwy’r post i:

The Biological Records Centre
CEH Wallingford
Maclean Building
Crowmarsh Gifford
Wallingford
Oxfordshire
OX10 8BB


Paneli cytrefu

Mae paneli cytrefu yn adeileddau artiffisial (fel teils neu blatiau) sy’n cael eu gosod mewn amgylcheddau morol i ddenu a monitro organebau sy’n cytrefu’r swbstrad. Y syniad yw gallu adnabod rhywogaethau estron goresgynnol yn gynnar, a chymryd mesurau i atal eu hymlediad. Maent wedi cael eu defnyddio’n llwyddiannus i fonitro rhywogaethau estron goresgynnol mewn amrywiaeth o leoliadau arfordirol, fel Solway Firth.

Gall paneli cytrefu fod yn arf defnyddiol i ganfod y rhywogaethau hyn a helpu i atal eu hymlediad ar seilwaith yn gynnar yn y broses. Mae’r Gymdeithas Fiolegol Forol wedi cynhyrchu canllawiau ar sut i wneud a gosod y paneli hyn. Gall gweithredwyr osod paneli ledled eu safle i fonitro a oes unrhyw rywogaethau estron goresgynnol yn bresennol. Yna, gellir defnyddio adnoddau mewn unrhyw ardaloedd sy’n arbennig o agored i niwed neu’n sensitif o ran eu gweithredu. Mae gwirio seilwaith i weld a oes rhywogaethau estron goresgynnol yn bresennol yn ystod archwiliadau a/neu waith cynnal a chadw arfaethedig yn fwy costeffeithiol.

Mae Partneriaeth Aber Afon Hafren yn defnyddio paneli cytrefu gyda phartneriaid mewn lleoliadau hollbwysig o amgylch aber afon Hafren er mwyn deall yn well pa rywogaethau estron goresgynnol sy’n bresennol yn yr ardal, ac olrhain tueddiadau dros amser. Os ydych yn rheolwr safle arfordirol, ac a oes gennych chi ddiddordeb mewn gosod paneli cytrefu, cysylltwch â severn@cardiff.ac.uk.

Fouled Settlement Panel
Panel cytrefu wedi’i halogi
(Cydnabyddiaeth am y ffotograff: Paul Brazier)
Settlement Panel
Panel cytrefu
(Cydnabyddiaeth am y ffotograff: Paul Brazier)


Wild about social media

Join our community online and tag your posts #DiscoverTheSevern