Language: English | Cymraeg
Aber afon Hafren a rhywogaethau estron goresgynnol
Mae aber afon Hafren yn amgylchedd deinamig ac unigryw sy’n cynnal aneddiadau trefol mawr ac amrywiaeth eang o fuddiannau diwydiant, treftadaeth a hamdden, yn ogystal â chynefinoedd a rhywogaethau pwysig.
Safle Morol Ewropeaidd Aber Afon Hafren
Mae gan aber afon Hafren nifer o ddynodiadau sy’n rhoi statws safle gwarchodedig iddo. Mae’n Ardal Cadwraeth Arbennig oherwydd ei gynefinoedd a rhywogaethau pysgod mudol, yn Ardal Gwarchodaeth Arbennig ar gyfer ei adar hela ac adar hirgoes, ac yn Safle Ramsar ar gyfer ei wlyptiroedd. Gyda’i gilydd, gelwir y dynodiadau hyn yn Safle Morol Ewropeaidd oherwydd bod y cynefinoedd a’r rhywogaethau y mae’r aber yn eu cynnal yn bwysig ar lefel Ewropeaidd. Mae gan aber afon Hafren hefyd nifer o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Mae’n rhaid rheoli aber afon Hafren ar y cyd, ac mewn modd sensitif, i sicrhau nad yw’r cynefinoedd a rhywogaethau arbennig yn cael eu difrodi. Mae hyn yn cynnwys creu mesurau bioddiogelwch i warchod y safle rhag effaith rhywogaethau estron goresgynnol. Mae Cymdeithas Awdurdodau Perthnasol Aber Afon Hafren (ASERA) yn rheoli’r safle ar y cyd o dan Gynllun Rheoli Safle Morol Ewropeaidd Môr Hafren ac mae wedi bod yn bartner. Bydd y cynllun yn cael ei roi ar waith gan ASERA a Phartneriaeth Aber Afon Hafren gyda chymorth Cyfoeth Naturiol Cymru, Natural England a phartneriaid hollbwysig eraill.
Beth yw rhywogaethau estron a goresgynnol?
Mae dros 2,000 o blanhigion ac anifeiliaid wedi cael eu cyflwyno i Brydain o bob rhan o’r byd gan bobl. Gelwir y rhain yn rhywogaethau estron. Mae’r mwyafrif yn ddiniwed, ond mae tua 10-15% yn ymledu ac yn dod yn rhywogaethau estron goresgynnol sy’n niweidio bywyd gwyllt a’r amgylchedd ac yn gostus i’r economi, a gallant hyd yn oed effeithio ar ein hiechyd a’n ffordd o fyw.
Brodorol o’i gymharu ag estron o’i gymharu â goresgynnol
Rhywogaeth frodorol:
- Rhywogaeth a darddodd, ac a esblygodd, yn ei chynefin cyfagos presennol
- Fel arfer yn achosi dim niwed, ond gall fod yn niwsans o dan amodau penodol
Rhywogaeth estron:
- Mae rhywogaeth estron yn rhywogaeth sydd wedi’i chyflwyno i Brydain drwy ymyrraeth ddynol (naill ai’n fwriadol neu’n ddamweiniol) ers diwedd yr oes iâ ddiwethaf (tua 10 mil o flynyddoedd yn ôl)
- Dim effeithiau ecolegol negyddol a/neu gymdeithasol-economaidd negyddol amlwg ar yr ecosystem sy’n ei derbyn
- Nid yw wedi esblygu fan hyn, ond nid yw’n achosi problem
Rhywogaeth estron oresgynnol:
- Rhywogaethau estron goresgynnol yw’r rhywogaethau hynny a gyflwynwyd, yn fwriadol neu’n anfwriadol, y tu allan i’w cwmpas daearyddol naturiol, gan achosi effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol a/neu economaidd
- Mae oddeutu 10-15% o rywogaethau estron yn niweidiol
- Rhywogaeth estron sy’n achosi niwed ecolegol a/neu niwed economaidd-gymdeithasol
- Nid yw wedi esblygu fan hyn ac mae’n achosi problem
Beth yw effeithiau rhywogaethau estron goresgynnol?
Ecolegol ac amgylcheddol:
- Lleihau bioamrywiaeth
- Ysglyfaethu ar rywogaethau brodorol
- Newid y cyfanswm genynnol trwy hybrideiddio
- Cystadleuaeth gyda rhywogaethau brodorol
- Bwyd a lle
- Newid cynefinoedd
- Peirianwyr ecosystem
- Effeithiau ar ymdrechion i adfer cynefinoedd,
- e.e. adfer morwellt a gwelyau wystrys
- Cyflwyno clefydau a pharasitiaid newydd
Economaidd a chymdeithasol:
- Rhwystro peipiau a chyfleustodau cyhoeddus eraill
- Perygl uwch o lifogydd trwy ansefydlogi glannau afonydd
- Effaith ar dwristiaeth a hamdden trwy fiolygru cychod
- Pysgodfeydd a stociau dyframaethu yn marw o ganlyniad i fygu a chystadleuaeth
- Amcangyfrifir bod y gost i economi’r DU yn £4 biliwn y flwyddyn
Rhywogaethau sy’n peri pryder i aber afon Hafren
Cranc manegog Tsieina (Eriocheir sinensis)
- Brodorol i Tsieina (Môr Melyn)
- Cofnodwyd am y tro cyntaf yn y DU yn 1935
- Mae oedolion yn byw mewn dŵr croyw ac yn dychwelyd i’r môr i fridio, gan farw ar ôl paru
- Mae turio yn ansefydlogi glannau afonydd
- Yn difrodi rhwydi pysgota ac yn dwyn abwydau

(Cydnabyddiaeth am y ffotograff: GB Non-Native Species Secretariat)

(Cydnabyddiaeth am y ffotograff: GB Non-Native Species Secretariat)
Tiwblynghyren Awstralia (Ficopomatus enigmaticus)
- Brodorol i ranbarth Cefnfor India a’r Môr Tawel
- Biolygru cregyn cychod, offer marinâu, seilwaith
- Niwsans mewn porthladdoedd a marinâu
- Rhwystro peipiauu a gatiau llanw

(Cydnabyddiaeth am y ffotograff: Paul Brazier, Cyfoeth Naturiol Cymru)
Wystrysen Portiwgal (Magallana gigas)
- Yn frodorol i Japan a gogledd-ddwyrain Asia
- Cyflwynwyd o Ganada yn y 1960au ar gyfer dyframaethu.Cofnod gwyllt cyntaf 1965
- Yn gallu ffurfio cydgasgliadau trwchus mewn dŵr rhynglanwol ac islanwol bas, gan newid y swbstrad
- Yn gallu newid cyfansoddiad cymunedol glannau creigiog
- Yn gallu cael effaith negyddol ar wystrys brodorol

(Cydnabyddiaeth am y ffotograff: GB Non-Native Species Secretariat)

(Cydnabyddiaeth am y ffotograff: J Bishop, Marine Biological Association)
Gwymon sargaso (Sargassum muticum)
- Brodorol i Japan
- Yn trechu gwymon brodorol, yn enwedig mewn pyllau glan môr
- Yn halogi offer pysgota
- Yn rhwystro peipiau mewnlif

(Cydnabyddiaeth am y ffotograff: John Bishop, Marine Biological Association (pobun))

(Cydnabyddiaeth am y ffotograff: John Bishop, Marine Biological Association (pobun))

(Cydnabyddiaeth am y ffotograff: John Bishop, Marine Biological Association (pobun))
Canllawiau adnabod y gellir eu lawrlwytho ar gyfer rhywogaethau estron goresgynnol morol yn y Gymraeg a’r Saesneg
Rhywogaethau ar y gorwel ar gyfer aber afon Hafren
Rhywogaeth ar y gorwel = rhywogaeth nad yw wedi’i sefydlu mewn rhanbarth ar hyn o bryd, ond sy’n debygol o oresgyn yn y dyfodol.
Chwistrell fôr garped (Didemnum vexillum)
- Rhywogaeth ar y gorwel i afon Hafren
- Brodorol i Japan
- Yn mygu fflora a ffawna brodorol
- Yn gallu tyfu dros rywogaethau gwarchodedig fel morwellt*
- Yn halogi seilwaith, offer pysgota, pysgodfeydd cregyn a dyframaethu, a chregyn cychod

(Cydnabyddiaeth am y ffotograff: Joe Ironside)
Cimwch Americanaidd (Homarus americanus)
- Rhywogaeth ar y gorwel i afon Hafren
- Yn anghyffredin ar hyn o bryd yn nyfroedd Prydain Fawr
- Anodd iawn i’w hadnabod
- Yn cael effaith ar gimychiaid brodorol trwy gystadleuaeth, rhyngfridio a lledaenu clefydau

(Cydnabyddiaeth am y ffotograff: CEFAS)