Severn INNS – CY

Language: English | Cymraeg

Aber afon Hafren a rhywogaethau estron goresgynnol

Mae aber afon Hafren yn amgylchedd deinamig ac unigryw sy’n cynnal aneddiadau trefol mawr ac amrywiaeth eang o fuddiannau diwydiant, treftadaeth a hamdden, yn ogystal â chynefinoedd a rhywogaethau pwysig.

Safle Morol Ewropeaidd Aber Afon Hafren

Mae gan aber afon Hafren nifer o ddynodiadau sy’n rhoi statws safle gwarchodedig iddo. Mae’n Ardal Cadwraeth Arbennig oherwydd ei gynefinoedd a rhywogaethau pysgod mudol, yn Ardal Gwarchodaeth Arbennig ar gyfer ei adar hela ac adar hirgoes, ac yn Safle Ramsar ar gyfer ei wlyptiroedd. Gyda’i gilydd, gelwir y dynodiadau hyn yn Safle Morol Ewropeaidd oherwydd bod y cynefinoedd a’r rhywogaethau y mae’r aber yn eu cynnal yn bwysig ar lefel Ewropeaidd. Mae gan aber afon Hafren hefyd nifer o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Mae’n rhaid rheoli aber afon Hafren ar y cyd, ac mewn modd sensitif, i sicrhau nad yw’r cynefinoedd a rhywogaethau arbennig yn cael eu difrodi. Mae hyn yn cynnwys creu mesurau bioddiogelwch i warchod y safle rhag effaith rhywogaethau estron goresgynnol. Mae Cymdeithas Awdurdodau Perthnasol Aber Afon Hafren (ASERA) yn rheoli’r safle ar y cyd o dan Gynllun Rheoli Safle Morol Ewropeaidd Môr Hafren ac mae wedi bod yn bartner. Bydd y cynllun yn cael ei roi ar waith gan ASERA a Phartneriaeth Aber Afon Hafren gyda chymorth Cyfoeth Naturiol Cymru, Natural England a phartneriaid hollbwysig eraill.


Beth yw rhywogaethau estron a goresgynnol?

Mae dros 2,000 o blanhigion ac anifeiliaid wedi cael eu cyflwyno i Brydain o bob rhan o’r byd gan bobl. Gelwir y rhain yn rhywogaethau estron. Mae’r mwyafrif yn ddiniwed, ond mae tua 10-15% yn ymledu ac yn dod yn rhywogaethau estron goresgynnol sy’n niweidio bywyd gwyllt a’r amgylchedd ac yn gostus i’r economi, a gallant hyd yn oed effeithio ar ein hiechyd a’n ffordd o fyw.

Brodorol o’i gymharu ag estron o’i gymharu â goresgynnol

Rhywogaeth frodorol:

  • Rhywogaeth a darddodd, ac a esblygodd, yn ei chynefin cyfagos presennol
  • Fel arfer yn achosi dim niwed, ond gall fod yn niwsans o dan amodau penodol

Rhywogaeth estron:

  • Mae rhywogaeth estron yn rhywogaeth sydd wedi’i chyflwyno i Brydain drwy ymyrraeth ddynol (naill ai’n fwriadol neu’n ddamweiniol) ers diwedd yr oes iâ ddiwethaf (tua 10 mil o flynyddoedd yn ôl)
  • Dim effeithiau ecolegol negyddol a/neu gymdeithasol-economaidd negyddol amlwg ar yr ecosystem sy’n ei derbyn
  • Nid yw wedi esblygu fan hyn, ond nid yw’n achosi problem

Rhywogaeth estron oresgynnol:

  • Rhywogaethau estron goresgynnol yw’r rhywogaethau hynny a gyflwynwyd, yn fwriadol neu’n anfwriadol, y tu allan i’w cwmpas daearyddol naturiol, gan achosi effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol a/neu economaidd
  • Mae oddeutu 10-15% o rywogaethau estron yn niweidiol
  • Rhywogaeth estron sy’n achosi niwed ecolegol a/neu niwed economaidd-gymdeithasol
  • Nid yw wedi esblygu fan hyn ac mae’n achosi problem

Beth yw effeithiau rhywogaethau estron goresgynnol?

Ecolegol ac amgylcheddol:

  • Lleihau bioamrywiaeth
  • Ysglyfaethu ar rywogaethau brodorol
  • Newid y cyfanswm genynnol trwy hybrideiddio
  • Cystadleuaeth gyda rhywogaethau brodorol
  • Bwyd a lle
  • Newid cynefinoedd
  • Peirianwyr ecosystem
  • Effeithiau ar ymdrechion i adfer cynefinoedd,
  • e.e. adfer morwellt a gwelyau wystrys
  • Cyflwyno clefydau a pharasitiaid newydd

Economaidd a chymdeithasol:

  • Rhwystro peipiau a chyfleustodau cyhoeddus eraill
  • Perygl uwch o lifogydd trwy ansefydlogi glannau afonydd
  • Effaith ar dwristiaeth a hamdden trwy fiolygru cychod
  • Pysgodfeydd a stociau dyframaethu yn marw o ganlyniad i fygu a chystadleuaeth
  • Amcangyfrifir bod y gost i economi’r DU yn £4 biliwn y flwyddyn

Rhywogaethau sy’n peri pryder i aber afon Hafren

Cranc manegog Tsieina (Eriocheir sinensis)

  • Brodorol i Tsieina (Môr Melyn)
  • Cofnodwyd am y tro cyntaf yn y DU yn 1935
  • Mae oedolion yn byw mewn dŵr croyw ac yn dychwelyd i’r môr i fridio, gan farw ar ôl paru
  • Mae turio yn ansefydlogi glannau afonydd
  • Yn difrodi rhwydi pysgota ac yn dwyn abwydau
Chinese mitten crab – Eriocheir sinensis
Cranc manegog Tsieina – Eriocheir sinensis
(Cydnabyddiaeth am y ffotograff: GB Non-Native Species Secretariat)
Chinese mitten crab – Eriocheir sinensis
Cranc manegog Tsieina – Eriocheir sinensis
(Cydnabyddiaeth am y ffotograff: GB Non-Native Species Secretariat)

Tiwblynghyren Awstralia (Ficopomatus enigmaticus)

  • Brodorol i ranbarth Cefnfor India a’r Môr Tawel
  • Biolygru cregyn cychod, offer marinâu, seilwaith
  • Niwsans mewn porthladdoedd a marinâu
  • Rhwystro peipiauu a gatiau llanw
Trumpet tube worm – Ficopomatus enigmaticus
Tiwblynghyren Awstralia – Ficopomatus enigmaticus
(Cydnabyddiaeth am y ffotograff: Paul Brazier, Cyfoeth Naturiol Cymru)

Wystrysen Portiwgal (Magallana gigas)

  • Yn frodorol i Japan a gogledd-ddwyrain Asia
  • Cyflwynwyd o Ganada yn y 1960au ar gyfer dyframaethu.Cofnod gwyllt cyntaf 1965
  • Yn gallu ffurfio cydgasgliadau trwchus mewn dŵr rhynglanwol ac islanwol bas, gan newid y swbstrad
  • Yn gallu newid cyfansoddiad cymunedol glannau creigiog
  • Yn gallu cael effaith negyddol ar wystrys brodorol
Wystrysen Portiwgal ar y lan – Magallana gigas
(Cydnabyddiaeth am y ffotograff: GB Non-Native Species Secretariat)
Pacific oyster – Magallana gigas
Wystrysen Portiwgal – Magallana gigas
(Cydnabyddiaeth am y ffotograff: J Bishop, Marine Biological Association)

Gwymon sargaso (Sargassum muticum)

  • Brodorol i Japan
  • Yn trechu gwymon brodorol, yn enwedig mewn pyllau glan môr
  • Yn halogi offer pysgota
  • Yn rhwystro peipiau mewnlif
Wireweed – Sargassum muticum
Gwymon sargaso – Sargassum muticum
(Cydnabyddiaeth am y ffotograff: John Bishop, Marine Biological Association (pobun))
Wireweed – Sargassum muticum
Gwymon sargaso – Sargassum muticum
(Cydnabyddiaeth am y ffotograff: John Bishop, Marine Biological Association (pobun))
Wireweed – Sargassum muticum
Gwymon sargaso – Sargassum muticum
(Cydnabyddiaeth am y ffotograff: John Bishop, Marine Biological Association (pobun))

Canllawiau adnabod y gellir eu lawrlwytho ar gyfer rhywogaethau estron goresgynnol morol yn y Gymraeg a’r Saesneg


Rhywogaethau ar y gorwel ar gyfer aber afon Hafren

Rhywogaeth ar y gorwel = rhywogaeth nad yw wedi’i sefydlu mewn rhanbarth ar hyn o bryd, ond sy’n debygol o oresgyn yn y dyfodol.

Chwistrell fôr garped (Didemnum vexillum)

  • Rhywogaeth ar y gorwel i afon Hafren
  • Brodorol i Japan
  • Yn mygu fflora a ffawna brodorol
  • Yn gallu tyfu dros rywogaethau gwarchodedig fel morwellt*
  • Yn halogi seilwaith, offer pysgota, pysgodfeydd cregyn a dyframaethu, a chregyn cychod
Carpet sea squirt – Didemnum vexillum
Chwistrell fôr garped – Didemnum vexillum
(Cydnabyddiaeth am y ffotograff: Joe Ironside)

Cimwch Americanaidd (Homarus americanus)

  • Rhywogaeth ar y gorwel i afon Hafren
  • Yn anghyffredin ar hyn o bryd yn nyfroedd Prydain Fawr
  • Anodd iawn i’w hadnabod
  • Yn cael effaith ar gimychiaid brodorol trwy gystadleuaeth, rhyngfridio a lledaenu clefydau
American lobster – Homarus americanus
Cimwch Americanaidd – Homarus americanus
(Cydnabyddiaeth am y ffotograff: CEFAS)

Wild about social media

Join our community online and tag your posts #DiscoverTheSevern