Language: English | Cymraeg
Cynllun Gweithredu Llwybr Adfer Cynefinoedd a Rhywogaethau Aber Afon Hafren
Adfer cynefinoedd a rhywogaethau yw’r broses o adfer iechyd a gweithrediad ecosystem sydd wedi’i diraddio neu wedi’i dinistrio. Ar yr arfordir, gall gynnwys ailgyflwyno planhigion fel morwellt neu forfa heli, neu anifeiliaid fel wystrys brodorol. Yn hanesyddol, collwyd cynefinoedd arfordirol ar raddfa eang, yn bennaf oherwydd gweithgareddau dynol. Mae ymchwydd wedi bod mewn prosiectau adfer cynefinoedd a rhywogaethau o amgylch arfordir y DU sy’n ceisio adfer y cynefinoedd pwysig hyn.
Gall prosiectau adfer fod yn llwybrau ar gyfer ymledu rhywogaethau estron goresgynnol trwy symud pobl, planhigion, gwaddod, cychod a dŵr. Mae’n bwysig ystyried bioddiogelwch wrth gynllunio prosiect adfer i atal cyflwyniad rhywogaethau estron goresgynnol, eu hymlediad a’u hymsefydliad.
Bydd angen trwydded forol ar gyfer gweithgareddau adfer cynefinoedd a ddylai gynnwys amod ar gyfer mabwysiadu cynllun bioddiogelwch.
Mae’r risgiau o ran rhywogaethau estron goresgynnol sy’n gysylltiedig â gweithgareddau adfer cynefinoedd a rhywogaethau yn deillio o symud anifeiliaid (yn ystod cyfnodau wy, cynrhonaidd, ifanc, neu oedolaidd) neu wymon (ar ffurf darnau neu sborau) gan longau ac offer o un lleoliad i leoliad arall. Mae’r prif fectorau yn y llwybr hwn yn cynnwys y canlynol:
- Symud stoc
- Gweithgareddau monitro
- Defnyddio cychod ac offer
Ymhlith y rhanddeiliaid perthnasol ar gyfer y cynllun gweithredu hwn yw asiantaethau llywodraethol, awdurdodau lleol, cyrff anllywodraethol amgylcheddol, sefydliadau academaidd ac ymchwil, grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr, a rhanddeiliaid diwydiant.


(Cydnabyddiaeth am y ffotograff: David Jenkins, CNC)

(Cydnabyddiaeth am y ffotograff: Project Seagrass)

(Cydnabyddiaeth am y ffotograff: Project Seagrass)
Cynllun Gweithredu Llwybr Adfer Cynefinoedd a Rhywogaethau Aber Afon Hafren
Rhif y cam gweithredu | Cam gweithredu | Dolenni |
---|---|---|
5.1 | Cefnogi’r cynllun hwn, a hyrwyddo’r defnydd o’r camau gweithredu sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun hwn, ar draws eich sector. | |
5.2 | Enwebu arweinydd bioddiogelwch yn eich sefydliad/grŵp. Annog yr unigolyn hwn i addysgu staff am rywogaethau estron goresgynnol morol gan ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael ar y tudalennau bioddiogelwch hyn. | |
5.3 | Gofyn i’r arweinydd bioddiogelwch adrodd am rywogaethau ar iRecord. Os nad ydych chi’n adnabod y rhywogaeth, anfon ffotograff i’ch canolfan gofnodion leol. | IRecord Local Records Centres (ALERC) |
5.4 | Cynnwys cyfeiriad at fioddiogelwch, a’i ystyried, mewn asesiadau risg ar gyfer gwaith. | Marine Biosecurity for Construction and Events (NNSS) |
5.5 | Cynnwys gofynion bioddiogelwch mewn amodau ar gyfer contractwyr allanol. Os yw’n briodol, gofyn iddynt ddilyn y canllawiau yn yr hyb bioddiogelwch hwn. | |
5.6 | Cynnwys gwybodaeth am rywogaethau estron goresgynnol, arferion gorau o ran bioddiogelwch, archwiliadau ac adroddiadau mewn hyfforddiant sefydlu gorfodol i staff. | Training (NNSS) |
5.7 | Edrych ar gylch penderfyniadau bioddiogelwch Blue Marine Foundation am enghraifft o’r ffactorau y mae angen eu hystyried wrth wneud gwaith i adfer rhywogaethau. | Blue Marine Foundation BIosecurity Plan Schematic (The Solent Forum) European Native Oyster Habitat Restoration Handbook (Native Oyster Network) |
5.8 | Os gofynnir am gynllun bioddiogelwch fel rhan o gais am drwydded forol, defnyddio’r adran adnoddau ar ein tudalen llwybrau i gael canllawiau. | Check out Links and Resources |
5.9 | Sicrhau eich bod yn Edrych, Golchi a Sychu’r holl gìt ac offer, gan ddilyn arferion gorau, bob tro ar ôl eu defnyddio. | Check, Clean, Dry for Field Workers (NNSS) |
5.10 | Ystyried cyfnod cwarantin os ydych yn symud stoc o ardaloedd risg uchel. |
Dolenni ac adnoddau:
