Language: English | Cymraeg
Bioddiogelwch yn Aber Afon Hafren:
Gwarchod Ein Hamgylchedd Morol
Mae Partneriaeth Aber Afon Hafren, mewn cydweithrediad â Cyfoeth Naturiol Cymru a Natural England, yn cydnabod pwysigrwydd bioddiogelwch wrth ddiogelu amgylchedd morol a bioamrywiaeth frodorol yr aber rhag rhywogaethau estron goresgynnol. Ynghyd â holl ddefnyddwyr aber afon Hafren, rydym wedi ymrwymo i roi camau gweithredu effeithiol ac ymarferol ar waith i fynd i’r afael â’r bygythiad cynyddol hwn.
Mae gweithredu mesurau bioddiogelwch cadarn yn hanfodol ar gyfer diogelu cyfanrwydd ecolegol aber afon Hafren. Mae’r mesurau hyn hefyd o fudd i fusnesau lleol drwy leihau costau biolygredd, cyflawni rhwymedigaethau amgylcheddol statudol, a symleiddio prosesau trwyddedu a chydsynio.
Cynllun Gweithredu Bioddiogelwch Aber Afon Hafren
Nod y tudalennau hyn yw darparu adnoddau cynhwysfawr i gefnogi camau gweithredu sy’n benodol i’r sector er mwyn atal a rheoli rhywogaethau estron goresgynnol morol gan ddefnyddio mesurau bioddiogelwch ac amrywiaeth o adnoddau sy’n targedu llwybrau cyflwyno penodol. Maent hefyd yn cefnogi’r broses o nodi rhywogaethau estron goresgynnol morol ac adrodd amdanynt. Mae ‘Cynllun Gweithredu Bioddiogelwch Aber Afon Hafren’ yn amlinellu camau gweithredu cyraeddadwy y gellir eu hehangu i bob defnyddiwr. Cynlluniwyd y mesurau hyn i warchod bioamrywiaeth ac adnoddau naturiol cyfoethog aber afon Hafren. Drwy weithredu’r cynllun hwn, ein nod yw sicrhau cynaliadwyedd hirdymor yr aber a’r buddion y mae’n eu darparu i bobl a bywyd gwyllt.
Ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth lunio camau gweithredu ar gyfer bioddiogelwch
Rydym yn annog cyfranogiad gweithredol gan yr holl randdeiliaid, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol y diwydiant, cymunedau lleol, a grwpiau cadwraeth. Mae trafodaethau a mentrau parhaus yn hollbwysig i wella bioddiogelwch yn aber afon Hafren. Mae asesiadau rheolaidd o effeithiau rhywogaethau estron goresgynnol, a dichonoldeb ein gweithredoedd, yn hanfodol ar gyfer sicrhau dull gwybodus a rhagweithiol wrth ymdrin â’r mater hollbwysig hwn.
Gweithio gyda’n gilydd dros aber afon Hafren gynaliadwy
Rydym yn gwahodd pawb sy’n defnyddio aber afon Hafren neu sy’n gweithio ynddo—boed ar gyfer gweithgareddau hamdden, gwaith, neu gadwraeth—i ddysgu mwy am fygythiad rhywogaethau estron goresgynnol morol a sut y gallant helpu i fynd i’r afael â’r her hon. Mae’r canllawiau a ddarperir yn y Cynllun Gweithredu Bioddiogelwch yn cynnig gweithdrefnau wedi’u teilwra y gall unigolion a grwpiau eu mabwysiadu i warchod yr aber, bodloni rhwymedigaethau amgylcheddol, lleihau costau cynnal a chadw, a chynorthwyo gyda cheisiadau am drwyddedau a chydsyniadau.
Gyda’r ymdrechion bioddiogelwch cydweithredol hyn, gallwn sicrhau bod aber afon Hafren yn parhau i fod yn ecosystem iach a gwydn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Beth yw Cynllun Gweithredu Bioddiogelwch?
Mae Cynllun Gweithredu Bioddiogelwch yn darparu fframwaith ar gyfer atal rhywogaethau estron goresgynnol rhag cael eu cyflwyno, neu ymledu, y tu mewn i ardal ddynodedig neu y tu hwnt iddi. Mae’r cynllun yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth, monitro a gwyliadwriaeth, a rhoi camau uniongyrchol ar waith i liniaru’r risgiau a achosir gan y rhywogaethau hyn. Mae’r dull hwn yn helpu i gynnal cydbwysedd ecolegol ardaloedd bregus fel aber afon Hafren.
Sut y datblygwyd y cynllun hwn?
Datblygwyd Cynllun Gweithredu Bioddiogelwch Aber Afon Hafren gan Bartneriaeth Aber Afon Hafren gyda chefnogaeth Natural England, Cyfoeth Naturiol Cymru ac APEM trwy ddull trawsffiniol. Crëwyd y cynllun ar ôl ymgysylltu â rhanddeiliaid, mapio llwybrau’r rhywogaethau estron goresgynnol, a nodi’r anghenion bioddiogelwch yn Afon Hafren. Cynhaliwyd cyfres o weithdai, ar-lein ac wyneb yn wyneb, i gasglu adborth gan wahanol randdeiliaid. Mae’r camau gweithredu yn y cynllun yn seiliedig ar ganllawiau gan Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr (GB NNSS) ac arferion gorau ymdrechion bioddiogelwch morol y DU.
Rheoli’r cynllun a diweddariadau
Bydd Partneriaeth Aber Afon Hafren yn rheoli, diweddaru ac yn adolygu’r Cynllun Gweithredu Bioddiogelwch hwn i sicrhau ei fod yn parhau i ddiwallu anghenion bioddiogelwch yr aber a’i ddefnyddwyr.
Rhywogaethau
goresgynnol ac aber afon Hafren

(Cydnabyddiaeth am y ffotograff:
Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau
Estron Prydain Fawr)
Dysgwch fwy am y rhywogaethau estron goresgynnol yn aber afon Hafren.
Cynlluniau gweithredu bioddiogelwch aber afon Hafren

(Cydnabyddiaeth am y ffotograff:
Partneriaeth Aber Hafren)
Darganfyddwch sut y gallwch chi
amddiffyn aber afon Hafren rhag rhywogaethau estron goresgynnol.
Monitro a chofnodi

(Cydnabyddiaeth am y ffotograff:
Paul Brazier)
Dysgwch fwy am fonitro a chofnodi rhywogaethau estron goresgynnol.
Polisi a deddfwriaeth

Dysgwch fwy am gefndir polisi a deddfwriaeth o ran bioddiogelwch yn
aber afon Hafren.
Dolennau ac adnoddau

Dysgwch fwy am rywogaethau estron goresgynnol a bioddiogelwch.