Language: English | Cymraeg
Cynllun Gweithredu Llwybr Gweithrediadau Masnachol Aber Afon Hafren
Yn aber afon Hafren, mae gweithrediadau masnachol yn llwybr hollbwysig ar gyfer cyflwyno ac ymledu rhywogaethau estron goresgynnol. Mae’r gweithrediadau hyn yn cynnwys y canlynol:
- Morgludiant – llongau cargo, llongau fferi, a dulliau teithio masnachol eraill.
- Carthu – casglu a symud gwaddod neu agregau.
- Adeiladu – adeiladu seilwaith morol.
- Cynnal a chadw – atgyweirio a glanhau seilwaith ac offer.
Nid yw’r cynllun gweithredu hwn yn cynnwys pysgota masnachol, sy’n gymharol brin yn aber afon Hafren.
Mae’r risgiau o ran rhywogaethau estron goresgynnol sy’n gysylltiedig â gweithgareddau masnachol yn deillio o symud anifeiliaid (yn ystod cyfnodau wy, cynrhonaidd, ifanc, neu oedolaidd) neu wymon (ar ffurf darnau neu sborau) gan longau ac offer o un lleoliad i leoliad arall. Yn ogystal â hyn, gall adeileddau alltraeth weithredu fel cerrig sarn ar gyfer symud rhywogaethau estron goresgynnol. Mae’r prif fectorau yn y llwybr hwn yn cynnwys y canlynol:
- Biolygru cregyn cychod ac adeileddau (gan gynnwys cilfachau fel gratiau).
- Trosglwyddo dŵr balast a gwaddod.
- Dŵr a gwaddod mewn hopranau llongau carthu.
- Organebau sy’n cael eu dal mewn mecanweithiau llong, fel llafnau gwthio, angorau a chadwyni.
Mae enghraifft o weithrediad masnachol yn aber afon Hafren yn cynnwys y porthladdoedd a’r harbwrs sy’n gwasanaethu ffermydd gwynt ar y môr a gweithgareddau masnachol eraill. Mae angen carthu a rheoli gwaddod yn rheolaidd i gynnal a chadw sianeli mordwyo. Yn debyg i aber afon Dyfrdwy, mae cynlluniau bioddiogelwch yn aml yn ofynnol ar gyfer cael trwyddedau morol, ac yn cael eu hadolygu’n rheolaidd i liniaru’r risg o gyflwyno rhywogaethau estron goresgynnol.
Mae gweithrediadau masnachol eraill yn aber afon Hafren yn cynnwys all-lifoedd o ddiwydiannau lleol, a gwaith cynnal a chadw ar raddfa fach ar seilwaith yr aber, ac mae gan bob un ohonynt y potensial i ddylanwadu ar addasrwydd yr aber ar gyfer rhywogaethau estron goresgynnol.

(Cydnabyddiaeth am y ffotograff: Associated British Ports)

(Cydnabyddiaeth am y ffotograff: Associated British Ports)

(Cydnabyddiaeth am y ffotograff: Associated British Ports)
Cynllun Gweithredu Llwybr Gweithrediadau Masnachol Aber Afon Hafren
Rhif y cam gweithredu | Cam gweithredu | Dolenni | Rhanddeiliad cyfrifol |
---|---|---|---|
3.1 | Cefnogi’r cynllun hwn, a hyrwyddo’r defnydd o’r camau gweithredu sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun hwn, ar draws eich sector. | Pob un yn berthnasol (awdurdodau porthladdoedd a harbwrs, diwydiant (e.e. agregau), iardiau atgyweirio cychod). | |
3.2 | Ystyried achrediad AQUA neu ddefnyddio’r templedi a ddarperir i ddrafftio cynllun bioddiogelwch ar gyfer eich sefydliad gan ddefnyddio’r adnoddau ar y wefan hon. | AQUA How to Write a Biosecurity Plan (NNSS) | Pob un |
3.3 | Enwebu arweinydd bioddiogelwch yn eich sefydliad/grŵp. Annog yr unigolyn hwn i addysgu staff a chwsmeriaid perthnasol am rywogaethau estron goresgynnol morol gan ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael ar y tudalennau bioddiogelwch hyn. | Pob un | |
3.4 | Addysgu staff, cwsmeriaid a chontractwyr trwy gynnwys gwybodaeth am rywogaethau estron goresgynnol morol, a bioddiogelwch, yn eich cyfryngau print a chyfryngau ar-lein presennol, megis canllawiau ar gyfer harbwrs a gwefannau. | Pob un | |
3.5 | Cynnwys gwybodaeth am rywogaethau estron goresgynnol, arferion gorau o ran bioddiogelwch, archwiliadau ac adroddiadau mewn hyfforddiant sefydlu gorfodol i staff. | Training (NNSS) | Pob un |
3.6 | Cynnwys cyfeiriad at fioddiogelwch, a’i ystyried, mewn asesiadau risg ar gyfer gwaith adeiladu a gwaith chynnal a chadw. | Pob un | |
3.7 | Cynnwys gofynion bioddiogelwch mewn amodau ar gyfer contractwyr allanol. Os yw’n briodol, gofyn iddynt ddilyn y canllawiau yn yr hyb bioddiogelwch hwn. | Pob un | |
3.8 | Os deuir o hyd i rhywogaethau estron goresgynnol morol, gofyn am gyfarwyddyd gan eich swyddfa Natural England neu Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch y ffordd orau o’u tynnu oddi ar seilwaith, os yw’n briodol. | NRW Enquiries: enquiries@naturalresourceswales.gov.uk – English ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk – Welsh NRW Invasive Non-native: invasive.non.native@naturalresourceswales.gov.uk – English rhywogaethau.estron.goresgynnol@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk – Welsh Natural England: marineinvasivespecies@naturalengland.org.uk | Pob un |
3.9 | Ystyried defnyddio paneli cytrefu i fonitro cytrefiad rhywogaethau estron goresgynnol morol mewn seilwaith glan y dŵr. Cysylltu â Phartneriaeth Aber Afon Hafren os oes diddordeb. | Check out settlement panels INNS Settlement Panels Report (Solway Firth Partnership) | Harbwrs/porthladdoedd |
3.10 | Dilyn arferion gorau wrth ymdrin â deunyddiau adeiladu sydd â ffynhonnell forol neu sydd wedi’u storio mewn dŵr. | Marine Biosecurity for Construction and Events (NNSS) | Pob un |
3.11 | Defnyddio canllawiau ar gynllunio bioddiogelwch Cymdeithas Cynhyrchwyr Agregau Morol Prydain (BMPA). | Biosecurity Planning Guidance for BMAPA (ABPmer) | Diwydiannau agregau |
3.12 | Gwirio a oes gan longau sy’n cyrraedd gynllun ar gyfer rheoli dŵr balast, llyfr cofnodion a thystysgrif (llongau dros 400 tunnell gros). | Ballast Water Convention (IMO) | Awdurdodau porthladdoedd a harbwrs |
3.13 | Wrth gynnal arolwg o longau neu seilwaith, a gwneud gwaith cynnal a chadw arnynt, dilyn canllawiau ar gyfer glanhau mewn dŵr y Sefydliad Morwrol Rhyngwladol. Cadw llygaid ar agor am rywogaethau estron goresgynnol ac, os ydynt yn bresennol, gofyn i’ch arweinydd bioddiogelwch dynnu ffotograff ohonynt a’u cofnodi ar iRecord. Os nad ydych chi’n adnabod y rhywogaeth, anfon ffotograff i’ch canolfan gofnodion leol. | IRecord In-water Cleaning Guidelines (IMO) Local Records Centres (ALERC) | Unrhyw sefydliad masnachol sy’n gyfrifol am gynnal a chadw llongau neu seilwaith tanddwr. |
3.14 | Wrth ddewis cyfleuster cynnal a chadw / atgyweirio llongau, sicrhau bod ganddo fesurau bioddiogelwch ar waith. | Unrhyw sefydliad sy’n gyfrifol am gynnal a chadw llongau masnachol. | |
3.15 | Gofyn i gychod sy’n cyrraedd, gan gynnwys llongau carthu ac ysgraffau, a oes ganddynt gynllun ar gyfer rheoli biolygru ar longau, neu pa fesurau sydd wedi’u rhoi ar waith er mwyn sicrhau bod y llong yn rhydd o rywogaethau estron goresgynnol morol cyn cyrraedd eich safle. | Awdurdodau porthladdoedd a harbwrs | |
3.16 | Pan fo’n briodol, ystyried gosod system olchi pwysedd uchel gynwysedig ar gyfer glanhau cregyn llongau, lle caiff dŵr ei gasglu a’i brosesu cyn ei ryddhau yn ôl i’r môr. | Iardiau atgyweirio cychod |
Dolennau ac adnoddau:
