Language: English | Cymraeg
Polisi a deddfwriaeth
Trosolwg o’r fframwaith cyfreithiol, rheoliadau, a pholisïau cyfredol sy’n ymwneud â bioddiogelwch.
Mae bioddiogelwch effeithiol yn aber afon Hafren yn dibynnu ar gadw at bolisïau hollbwysig a fframweithiau deddfwriaethol sydd wedi’u cynllunio i ddiogelu’r amgylchedd morol rhag rhywogaethau estron goresgynnol. Mae’r polisïau hyn yn sefydlu mesurau i atal cyflwyno, ac ymledu, rhywogaethau estron goresgynnol, ac yn llywio’r arferion cyfrifol ar gyfer amrywiol sectorau morol.


Cynllun Morol Glannau Lloegr a Môr Mawr De-orllewin Lloegr
Polisi SW-INN-1
Rhaid i gynigion roi mesurau priodol ar waith i osgoi neu leihau effeithiau andwyol sylweddol ar yr ardal forol yn sgil cyflwyno a chludo rhywogaethau estron.
Cynllun Morol Cymru
Polisi ENV_03
Rhaid i gynigion asesu’r risg o gyflwyno neu ymledu rhywogaethau estron goresgynnol, a rhoi mesurau bioddiogelwch ar waith lle bo’n briodol. Mae hyn yn helpu i sicrhau cydymffurfedd â Wildlife and Countryside Act 1981 ac yn cyfrannu at dargedau Strategaeth Forol y DU, yn benodol Disgrifydd 2, sy’n canolbwyntio ar gynnal iechyd a chydnerthedd ecosystemau.
Mae’r polisïau uchod yn arbennig o bwysig mewn sefyllfaoedd sy’n cynnwys:
Cyflwyno adeileddau a allai hwyluso cytrefu, neu ymledu, rhywogaethau estron.
Symud offer, cychod, neu dda byw (e.e. pysgod a physgod cregyn) rhwng cyrff dŵr.

Ysgogwyr polisi
Mae sawl polisi a deddfwriaeth hollbwysig yn ysgogi’r gwaith i reoli rhywogaethau estron goresgynnol:
- Rhywogaethau estron goresgynnol ac Ardaloedd Morol Gwarchodedig
Mae rhywogaethau estron goresgynnol yn peri risg gynyddol i gyflwr ffafriol Ardaloedd Morol Gwarchodedig. Mae Deddf Amgylchedd y DU yn gosod targed i adfer 70% o nodweddion dynodedig mewn Ardaloedd Morol Gwarchodedig i gyflwr ffafriol erbyn 2042, gyda’r gweddill mewn cyflwr sy’n gwella. Mae rheoli rhywogaethau estron goresgynnol yn rhan hanfodol o’r amcan hwn.
- Strategaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr
Mae’r strategaeth hon yn amlinellu dull cydgysylltiedig ar draws y llywodraeth a sefydliadau i reoli’r bygythiad o rywogaethau estron goresgynnol. Mae’n dilyn yr egwyddorion o atal, canfod cyflym, a difa cynnar, ynghyd â rheolaeth hirdymor fel y nodir gan y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol.
Gweithredu cynlluniau bioddiogelwch fel rhan o’r mesurau i gyflawni Statws Amgylcheddol Da.
Strategaeth Forol y DU a Statws Amgylcheddol Da
Mae Strategaeth Forol y DU yn gofyn am gamau gweithredu i gyflawni Statws Amgylcheddol Da mewn dyfroedd morol. Mae Disgrifydd 2 y strategaeth yn nodi bod “rhywogaethau estron a gyflwynir gan weithgareddau dynol ar lefelau nad ydynt yn newid yr ecosystem yn andwyol”. Mae targedau yn cynnwys:
Lleihau’r risg o gyflwyno ac ymledu rhywogaethau estron goresgynnol trwy reoli llwybrau a fectorau risg uchel.
Llunio cynlluniau gweithredu ar gyfer rhywogaethau estron morol risg uchel hollbwysig.



Deddfwriaeth hollbwysig
- Wildlife and Countryside Act 1981
Yn darparu amddiffyniad cyfreithiol i rywogaethau a chynefinoedd brodorol, ac yn cynnwys darpariaethau i atal rhai rhywogaethau estron rhag cael eu rhyddhau i’r gwyllt.
- Gorchymyn Rhywogaethau Estron Goresgynnol (Gorfodi a Thrwyddedu)
Mae’r ddeddfwriaeth hon yn gorfodi rheolaethau ar fasnachu, symud a rhyddhau rhywogaethau goresgynnol rhestredig.
- Water Framework Directive (WFD) 2000
Ei nod yw diogelu a gwella cyrff dŵr, gan gynnwys aberoedd, trwy osod safonau ar gyfer ansawdd dŵr, a rheoli risgiau ecolegol, megis cyflwyno rhywogaethau estron goresgynnol.
Nid oes angen trwydded forol ar gyfer dyddodi sylwedd o gragen llong, wrth lanhau cragen yn y dŵr, ar yr amod bod y gwaith glanhau yn cael ei wneud â llaw gan ddefnyddio lliain meddal, sbwng, brwsh â blew meddal, neu bapur tywod â maint graean o P2000 o leiaf. Mae hyn i bob pwrpas yn golygu ei bod yn drosedd glanhau mwy na haenen o lysnafedd.
Marine and Coastal Access Act 2009 (Lloegr yn unig).

Cydsyniadau
Mae’r broses trwyddedu morol yn asesu effaith amgylcheddol gweithgareddau trwyddedadwy, gan gynnwys y posibilrwydd o gyflwyno neu ymledu rhywogaethau estron goresgynnol. Fel rhan o hyn, gall cyngor gan ymgyngoreion, fel Cyfoeth Naturiol Cymru neu Natural England, gynnwys argymhellion ar gyfer yr arferion gorau o ran bioddiogelwch, megis llunio cynllun bioddiogelwch. Gall y cynllun hwn ddod yn amod o’r drwydded forol. Mae angen ystyriaethau tebyg o ran bioddiogelwch ar gyfer unrhyw weithgareddau sy’n ymwneud â chydsyniadau Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig er mwyn amddiffyn ardaloedd sensitif rhag risgiau rhywogaethau estron goresgynnol.
