Marinas – CY

Language: English | Cymraeg

Cynllun Gweithredu Llwybr Marinâu Aber Afon Hafren

Mae’r dudalen hon wedi’i theilwra i’r rheini sy’n rheoli marinâu neu gyfleusterau arfordirol tebyg. Gan fod gweithgareddau hamdden yn llwybr hollbwysig ar gyfer ymledu rhywogaethau estron goresgynnol yn aber afon Hafren, mae’n bwysig bod rheolwyr cyfleusterau arfordirol yn ymwybodol o fygythiad rhywogaethau estron goresgynnol a mesurau bioddiogelwch. Mae’r gweithgareddau hyn yn boblogaidd iawn yn aber afon Hafren ar draws amrywiaeth o leoliadau, ond maent yn fwy tebygol o ddigwydd mewn canolbwyntiau fel marinâu a chlybiau.

Gall gweithgareddau fel adeiladu, a chynnal a chadw, marinâu neu gyfleusterau arfordirol eraill hefyd ymledu rhywogaethau estron goresgynnol, a dylent ystyried bioddiogelwch. Gellir dod o hyd i gamau gweithredu ar y dudalen ‘Gweithrediadau Masnachol’.

Gall gweithgareddau hamdden mewn marinâu drosglwyddo rhywogaethau estron goresgynnol mewn nifer o wahanol ffyrdd:

  • Mewn llongau neu fadau dwr
  • Ar gregyn cychod (gelwir hyn yn ‘fiolygru’ a bydd yn weladwy)
  • Ar offer (er enghraifft, ar angorau, cymhorthion hynofedd, padlau, padlfyrddau rydych yn sefyll arnynt)
  • Ar ddillad (er enghraifft, siwtiau gwlyb, siwtiau sych, esgidiau, helmedau)

Mae’r risgiau o ran rhywogaethau estron goresgynnol sy’n gysylltiedig â rheoli cyfleusterau arfordirol yn deillio o symud anifeiliaid (yn ystod cyfnodau wy, cynrhonaidd, ifanc, neu oedolaidd) neu wymon (ar ffurf darnau neu sborau) gan longau ac offer o un lleoliad i leoliad arall. Mae’r prif fectorau yn y llwybr hwn yn cynnwys y canlynol:

  • Biolygru cregyn cychod ac adeileddau (gan gynnwys cilfachau fel gratiau).
  • Dŵr a gwaddod mewn hopranau llongau carthu.
  • Organebau sy’n cael eu dal mewn mecanweithiau llong, fel llafnau gwthio, angorau a chadwyni.

Yn gyffredinol, bydd mesurau bioddiogelwch ar gyfer marinâu yn canolbwyntio ar reoli’r risg y bydd rhywogaethau estron goresgynnol morol yn cyrraedd ac yn ymledu, a chodi ymwybyddiaeth o’r rhywogaethau hyn. Enghraifft o reoli’r risg o rywogaethau estron goresgynnol fyddai tynnu seilwaith o’r dŵr pan nad yw’n cael ei ddefnyddio, a sychu’r holl offer yn yr aer ar ôl eu defnyddio. Mae hyn yn hollbwysig i reoli sefydlu ac ymledu rhywogaethau estron goresgynnol, a all oroesi mewn amodau llaith am ychydig o wythnosau, a byddant yn ymsefydlu ar adeileddau artiffisial.

Y rhanddeiliaid perthnasol ar gyfer y cynllun gweithredu hwn yw gweithredwyr a rheolwyr marinâu.

Trumpet tube worm
Tiwblynghyren Awstralia
(Cydnabyddiaeth am y ffotograff: Christine Wood)
Fouled Buoy
Bwi wedi’i halogi
(Cydnabyddiaeth am y ffotograff: Paul Brazier CNC)
Fouled Fender
Ffender wedi’i halogi
(Cydnabyddiaeth am y ffotograff: Chloe Powell-Jennings)

Cynllun Gweithredu Llwybr Marinâu Aber Afon Hafren

Rhif y cam gweithreduCam gweithreduDolenni
4.1Cefnogi’r cynllun hwn, a hyrwyddo’r defnydd o’r camau gweithredu sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun hwn, ar draws eich sector.
4.2Ystyried achrediad AQUA neu ddefnyddio’r templedi a ddarperir i ddrafftio cynllun bioddiogelwch ar gyfer eich sefydliad gan ddefnyddio’r adnoddau ar y wefan hon.AQUA

How to Write a Biosecurity Plan (NNSS)
4.3Enwebu arweinydd bioddiogelwch yn eich sefydliad/grŵp. Annog yr unigolyn hwn i addysgu staff a chwsmeriaid am rywogaethau estron goresgynnol morol gan ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael ar y tudalennau bioddiogelwch hyn.
4.4Gofyn i’r arweinydd bioddiogelwch adrodd am rywogaethau ar iRecord. Os nad ydych chi’n adnabod y rhywogaeth, anfon ffotograff i’ch canolfan gofnodion leol.IRecord

Local Records Centres (ALERC)
4.5Os deuir o hyd i rywogaethau estron goresgynnol morol, ceisio cyfarwyddyd gan Natural England a Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch y ffordd orau o dynnu’r rhywogaeth oddi ar y seilwaith, os yw’n briodol.RAPID INNS Management Toolkit (NNSS)

NRW Enquiries: enquiries@naturalresourceswales.gov.uk – English
ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk – Welsh

NRW Invasive Non-native:
invasive.non.native@naturalresourceswales.gov.uk – English
rhywogaethau.estron.goresgynnol@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk – Welsh

Natural England: marineinvasivespecies@naturalengland.org.uk
4.6Wrth gynnal arolwg o longau, neu wrth wneud gwaith cynnal a chadw arnynt, cadw llygaid ar agor am rywogaethau estron goresgynnol morol. Os ydych yn dod o hyd iddynt, tynnu ffotograffau ohonynt a’u cofnodi ar iRecord.IRecord
4.7Cadw llygaid ar agor am longau sydd wedi’u halogi llawer (h.y. mwy na haenen o lysnafedd). Canolbwyntio ar longau a allai fod wedi’u hangori, neu wedi’u docio, am dros ddau fis mewn lleoliad gwahanol. Pan fo’n bosibl, cynghori glanhau cychod ar unwaith gan ddilyn yr arferion gorau ar gyfer eu glanhau.
4.8Addysgu staff, cwsmeriaid a chontractwyr trwy gynnwys gwybodaeth am rywogaethau estron goresgynnol morol, a bioddiogelwch, yn eich cyfryngau print a chyfryngau ar-lein presennol, megis canllawiau ar gyfer marinâu a gwefannau.
4.9Cynnwys gwybodaeth am rywogaethau estron goresgynnol, arferion gorau o ran bioddiogelwch, archwiliadau ac adroddiadau mewn hyfforddiant sefydlu gorfodol i staff.Training (NNSS)
4.10Cefnogi camau gweithredu y cytunwyd arnynt yn genedlaethol i ddosbarthu deunyddiau sy’n codi ymwybyddiaeth, gan anelu at gael posteri ym mhob clwb a chanolfan hyfforddi, a rhannu negeseuon mewn cylchgronau, drwy bost dorfol, ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mewn deunyddiau cyfathrebu eraill.Pathway Action Plans (NNSS)
4.11Ychwanegu cymal ‘cwch glân’ at eich cytundebau angori. Peidio â gadael i gychod sydd wedi’u halogi llawer (h.y. mwy na haenen o lysnafedd) gael eu rhoi yn y dŵr. Os ydynt yn y dŵr yn barod, ac wedi’u halogi llawer, annog perchnogion y cychod i’w codi o’r dŵr a’u glanhau.Recreational Boating PAP (NNSS)
4.12Gofyn i’ch arweinydd bioddiogelwch godi ymwybyddiaeth ymhlith perchnogion cychod sydd wedi’u docio’n hirdymor (dros ddau fis) am y risgiau o gytrefu gan rywogaethau estron goresgynnol ar gregyn llongau, a’r angen i lanhau cregyn mewn ffordd fioddiogel, gan ddilyn canllawiau arfer gorau.
4.13Cynnwys gofynion bioddiogelwch mewn amodau ar gyfer contractwyr allanol. Os yw’n briodol, gofyn iddynt ddilyn y canllawiau yn yr hyb bioddiogelwch hwn.
4.14Gofyn i gontractwyr a chyflenwyr perthnasol pa fesurau bioddiogelwch sydd ganddynt ar waith o ran eu gweithrediadau fel rhan o’r broses gomisiynu ar gyfer contractau newydd. Os yw’n briodol, gofyn iddynt ystyried mabwysiadu’r camau gweithredu a geir yn adran Gweithrediadau Masnachol y cynllun hwn.Check out Commercial Operations
4.15Pan wneir gwaith adeiladu neu gynnal a chadw, sicrhau eich bod yn cyfeirio at y camau gweithredu yn adran Gweithrediadau Masnachol y cynllun hwn.Marine Biosecurity for Construction and Events (NNSS)
4.16Pan fo’n briodol, ystyried gosod system olchi pwysedd uchel gynwysedig ar gyfer glanhau cregyn llongau, lle caiff dŵr ei gasglu a’i brosesu cyn ei ryddhau yn ôl i’r môr.
4.17Dilyn ymgyrch ‘Amddiffyn, Casglu a Gwaredu’ The Green Blue sy’n canolbwyntio ar arferion amgylcheddol gorau wrth ddihalogi cychod hwylio a chychod eraill.Guidance on Anti-fouling (BCF)
4.18Ystyried defnyddio paneli cytrefu i fonitro cytrefiad rhywogaethau estron goresgynnol morol mewn seilwaith glan y dŵr. Cysylltu â Phartneriaeth Aber Afon Hafren os oes diddordeb.INNS Settlement Panels Report (Solway Firth Partnership)
4.19Rhoi canllawiau clir i aelodau ar eu rhwymedigaethau cyfreithiol o ran gweithgareddau yn yr amgylchedd morol. Gellid cynnwys hyn mewn gwybodaeth aelodaeth ar gyfer cofrestru/adnewyddu, neu fel rhan o’r negeseuon cyfathrebu rheolaidd ag aelodau.Check out Policy and Legislation

Dolennau ac adnoddau:

Wild about social media

Join our community online and tag your posts #DiscoverTheSevern