Recreation – CY

Language: English | Cymraeg

Cynllun Gweithredu Llwybr Hamdden Aber Afon Hafren

Mae gweithgareddau hamdden, megis cychod hamdden a chwaraeon dŵr, yn boblogaidd iawn yn aber afon Hafren ar draws amrywiaeth o leoliadau, ond maent yn fwy tebygol o ddigwydd mewn canolbwyntiau fel marinâu a chlybiau. Yn yr amgylchedd morol, mae hamdden yn cael ei gydnabod fel llwybr hollbwysig ar gyfer cyflwyno a lledaenu rhywogaethau estron goresgynnol. Mae hyn yn cael ei briodoli i anifeiliaid (fel wyau, ac yn eu cyfnodau bywyd cynrhonaidd, ifanc ac oedolaidd) neu wymon (ar ffurf neu sborau) yn cael eu trosglwyddo gan ddefnyddwyr hamdden, a/neu ar eu hoffer, rhwng lleoliadau. Mae rhywogaethau estron goresgynnol yn gallu mynd yn sownd mewn bylchau bach a nodweddion cadw dŵr ac ar offer a chyfarpar (e.e. padlfyrddau, angorau, cymhorthion hynofedd a chìt), neu’n glynu wrth gregyn cychod.

Biolygredd yw croniad o organebau morol (planhigion, anifeiliaid, bacteria a detritws) ar arwynebau tanddwr neu arwynebau rhannol danddwr. Mae biolygru cregyn cychod yn cyfeirio at fiolygru cregyn cychod ac arwynebau eraill sydd o dan wyneb y ddŵr. Mae hyn yn cynnwys yr holl arwynebau a chilfachau (h.y. ardaloedd cilfachog neu ardaloedd anodd eu cyrraedd ac agennau) sy’n cyffwrdd y dŵr.


Dylai unrhyw un sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden ar aber afon Hafren, neu gerllaw iddo, ymgyfarwyddo â’r cynllun hwn. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys y canlynol:

  • Chwaraeon ar y traeth – e.e. barcudfyrddio, canfod metel
  • Chwaraeon dŵr – hwylio, cychod modur, padlfyrddio wrth sefyll, nofio, bordhwylio, ceufadu/canŵio
  • Gwylio bywyd gwyllt
  • Glanhau’r traeth

Gellir trosglwyddo rhywogaethau estron goresgynnol drwy nifer o wahanol ffyrdd o weithgareddau hamdden:

  • Mewn cychod neu fadau dŵr (yn enwedig mewn bylchau bach na fyddwch chi’n eu gwirio na’u glanhau’n aml)
  • Ar gregyn cychod (gelwir hyn yn ‘fiolygru’ a bydd yn weladwy)
  • Ar offer (er enghraifft, ar angorau, cymhorthion hynofedd, padlau, padlfyrddau rydych yn sefyll arnynt)
  • Ar ddillad (er enghraifft, siwtiau gwlyb, siwtiau sych, esgidiau, helmedau)

Er mwyn lleihau’r risgiau hyn, dylai unrhyw un sy’n cymryd rhan mewn gweithgaredd hamdden ddilyn y camau bioddiogelwch yn y cynllun hwn. Mae’r rhain yn cynnwys Edrych, Golchi a Sychu eu holl offer a chìt yn drylwyr, sefydlu protocolau bioddiogelwch ar gyfer eu clybiau neu grŵp, a gwneud gwaith cynnal a chadw priodol ar gychod, gan gynnwys gwaith gwrthlygru ac atal biolygru.

Mae rhanddeiliaid perthnasol ar gyfer y cynllun gweithredu hwn yn cynnwys defnyddwyr hamdden / grwpiau defnyddwyr, cymdeithasau chwaraeon a hamdden, darparwyr hamdden masnachol, a sefydliadau twristiaeth.  


Cynllun Gweithredu Llwybr Hamdden Aber Afon Hafren

Rhif y cam gweithreduCam gweithreduDolenni
1.1Cefnogi’r cynllun hwn, a hyrwyddo’r defnydd o’r camau gweithredu sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun hwn, ar draws eich sector.
1.2Ystyried achrediad AQUA, neu ddefnyddio’r templedi a ddarperir, i ddrafftio cynllun bioddiogelwch ar gyfer eich grŵp gan ddefnyddio’r adnoddau ar y wefan hon.AQUA
1.3Enwebu arweinydd bioddiogelwch yn eich sefydliad/grŵp. Annog yr unigolyn hwn i addysgu staff a chwsmeriaid am rywogaethau estron goresgynnol morol gan ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael ar y tudalennau bioddiogelwch hyn.
1.4Gofyn i’r arweinydd bioddiogelwch adrodd am rywogaethau ar iRecord. Os nad ydych chi’n adnabod y rhywogaeth, anfon ffotograff i’ch canolfan gofnodion leol.IRecord

Local Records Centres (ALERC)
1.5Bod yn rhan o’r ymgyrch Edrych, Golchi, Sychu, a defnyddio ei hadnoddau ar gyfer arferion gorau.Check, Clean, Dry (NNSS)
1.6Dosbarthu negeseuon a deunyddiau sy’n hyrwyddo’r ymgyrch Edrych, Golchi, Sychu.Boaters (NNSS)

Paddlers (NNSS)

Stand Up Paddleboarders (NNSS)
1.7Cynnwys gwybodaeth am rywogaethau estron goresgynnol, arferion gorau o ran bioddiogelwch, archwiliadau ac adroddiadau mewn hyfforddiant ar gyfer pob aelod o staff / pob aelod newydd.Training (NNSS)
1.8Addysgu staff, cwsmeriaid a chontractwyr trwy gynnwys gwybodaeth am rywogaethau estron goresgynnol morol a bioddiogelwch yn eich gwefannau a chyfryngau print a chyfryngau ar-lein presennol.
1.9Nodi cyfleusterau golchi presennol sy’n dilyn yr arferion gorau o ran dal a chael gwared ar ddeunyddiau. Pan nad ydynt ar gael, ceisio arian ar gyfer gosod cyfleusterau o’r fath.Environmental Facilities Map (The Green Blue)
1.10Hybu’r defnydd o’r ap iRecord ar gyfer unigolion sy’n defnyddio’r arfordir.IRecord
1.11Rhannu adnoddau The Green Blue sy’n berthnasol i weithgareddau hamdden â rhanddeiliaid.Resouces (The Green Blue)
1.12Ychwanegu cymal bioddiogelwch mewn unrhyw wybodaeth a rennir mewn digwyddiadau cychod a chwaraeon dŵr i sicrhau bod cystadleuwyr nad ydynt yn mynd i ardal afon Hafren fel arfer yn ymwybodol o’r ymgyrch Edrych, Golchi, Sychu a’r angen i atal rhywogaethau estron goresgynnol morol rhag ymledu.Check out Events
1.13Gofyn am becyn arwyddion bioddiogelwch arfordirol The Green Blue a defnyddio’r arwyddion mewn mannau a gaiff eu defnyddio gan bobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon dŵr.Coastal Biosecurity Signage Kit (The Green Blue)
1.14Cefnogi camau gweithredu y cytunwyd arnynt ar lefel genedlaethol i annog pob clwb a chanolfan hyfforddi i ychwanegu cymal ynghylch bioddiogelwch at eu cyfansoddiadau, eu systemau dyfarnu, ac, yn ddelfrydol, at unrhyw gytundebau contractiol eraill (e.e. cytundebau i ddefnyddio cychod / cadw cychod). Gall hyn fod yn uniongyrchol neu drwy gynnwys cymalau ynghylch bioddiogelwch mewn unrhyw gyfansoddiadau enghreifftiol a ddarperir i glybiau.Recreational Boating Pathway Action Plan (NNSS)
1.15Rhoi canllawiau clir i aelodau ar eu rhwymedigaethau cyfreithiol o ran gweithgareddau yn yr amgylchedd morol. Gellid cynnwys hyn mewn gwybodaeth aelodaeth ar gyfer cofrestru/adnewyddu, neu fel rhan o’r negeseuon cyfathrebu rheolaidd ag aelodau.Check out Policy and Legislation
1.16Dilyn ymgyrch ‘Amddiffyn, Casglu a Gwaredu’ The Green Blue sy’n canolbwyntio ar arferion amgylcheddol gorau wrth ddihalogi cychod hwylio a chychod eraill.Guidance on Anti-fouling (BCF)


Wild about social media

Join our community online and tag your posts #DiscoverTheSevern